YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL
CHWEFROR 2024
YMWELIADAU I GYMRU |
|
26 Ch
|
Ymweliad â Chymru gan Uchel Gomisiynydd Bangladesh i'r DU Cyfarfu'r Prif Weinidog â'r Uchel Gomisiynydd yn ystod ei ymweliad deuddydd â Chymru. Yn y cyfarfod buont yn trafod hyrwyddo'r Gymraeg, addysg yng Nghymru a chymuned Bangladesh yng Nghymru.
|
YMWELIADAU O GYMRU |
|
28 Ch
28 Ch
28 Ch
29 Ch
29 Ch |
Prif Weinidog yn ymweld â Brwsel, Gwlad Belg * Teithiodd y Prif Weinidog i Frwsel i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a dangos ymrwymiad Cymru fel cenedl Ewropeaidd gyda phartneriaid Ewropeaidd. Fe wnaeth y Prif Weinidog siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Fforwm Ewrop, cyfarfod â Llywydd y Gweinidog Fflandrys, cynnal trafodaeth bwrdd crwn gan WindEurope a mynychu digwyddiad a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru. Gyda'r nos, cynhaliodd y Prif Weinidog dderbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mhreswylfa’r Llysgenhadon ym Mrwsel.
Ymweliad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ag India* Teithiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i India i lansio blwyddyn Cymru yn India 2024 yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai a mynychodd gyfarfodydd a digwyddiadau ar draws sawl sector, gan gynnwys gofal iechyd, cyfrifoldeb byd-eang a phŵer meddal. Ymwelodd y Gweinidog hefyd â thalaith Kerala i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ochr yn ochr â Phrif Weinidog Kerala i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Kerala i gefnogi recriwtio i Gymru.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip yn ymweld ag Iwerddon* Teithiodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip i Ddulyn i gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Ddatganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru ac i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yr ymweliad deuddydd yn cynnwys cyfarfodydd â Gweinidogion ac Adrannau’r Llywodraeth, presenoldeb mewn nifer o ddigwyddiadau diwylliannol a busnes a chynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi.
Y Prif Weinidog yn ymweld ag Uchel Gomisiwn India, Llundain Cyfarfu’r Prif Weinidog ag Uchel Gomisiynydd India yn Llundain yn ystod derbyniad Dydd Gŵyl Dewi’r Comisiwn.
Y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd yn ymweld â Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, Llundain Cyfarfu’r Gweinidog â Llysgennad yr Unol Daleithiau yn Llundain yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi’r Llysgenhadaeth.
|
*Cyhoeddir datganiad ysgrifenedig gyda rhagor o wybodaeth am yr ymweliadau maes o law.